Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11041
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.31
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns – Y Camau Nesaf
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
4 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd
Dechreuodd yr eitem am 16.03
5 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 - Gohiriwyd
Gohiriwyd yr eitem hon
6 Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Dechreuodd yr eitem am 16.37
NDM7498 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Am 16.52, cafodd y trafodion eu hatal am bum munud gan y Dirprwy Lywydd oherwydd anawsterau technegol yn y Siambr. Am 16.57, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.02, cafodd y cyfarfod ei atal am 25 munud, ac am 17.27, cafodd y cyfarfod ei ailgynnull. Am 17.30, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro eto.
Am 17.45, cafodd y trafodion eu gohirio gan y Dirprwy Lywydd.
Caiff y cyfarfod ei ailgynnull am 12.30 dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7497 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
36 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros droMotion
Dechreuodd yr eitem am 13.25
NDM7500 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7501 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig Gweithdrefnol
Dechreuodd yr eitem am 12.36
Cynnig gweithdrefnol yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r eitem nesaf o fusnes tan ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020
8 Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd
Cafodd yr eitem ei gohirio tan gyfarfod dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020.
9 Dadl: Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2019-2020 - Gohiriwyd
Gohiriwyd yr eitem hon
10 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 13.27 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 13.31 Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2020